Blwyddyn 4
Tymor yr Hydref - Y Goedwig Wyllt
Bydd y disgyblion yn dysgu am gynefinoedd, cylchoedd bywyd a chadwyni bwyd. Yn ystod y tymor hwn rydym yn ymweld â Pharc Dinefwr, yn mynd ar helfa trychfilod ac yn adeiladu gwestai trychfilod. Mae'r thema hon yn cynnig llawer o gyfleoedd i ganolbwyntio ar gasglu a thrin data yn ogystal â chynhyrchu testunau gwybodaeth tra'n arwain at ddigon o gyfleoedd i weithio ar sgiliau ymchwil.
Tymor y Gwanwyn - Cestyll a Dreigiau
Mae hon yn thema sy'n seiliedig ar hanes cestyll ym Mhrydain yn dechrau gyda'r cestyll cynta a adeiladwyd gan William y Gorchfygwr ac yna'n symud ymlaen i Oes y Tywysogion yng Nghymru. Rydym yn ymweld a Chastell Dinefwr/ Carreg Cennen yn ystod y tymor yma. Rydym yn astudio dreigiau drwy ein gwaith iaith lle cawn gyfle i ddysgu am chwedlau o Gymru a storiau am ddreigiau ac i ysgrifennu'n greadigol amdanynt.
Tymor yr Haf - Bwydydd y Byd
Mae'r thema yma yn edrych ar fwydydd o bob cwr o'r byd, bwyta'n iach, hylendid deintyddol a'r system dreulio bwyd. Astudiwyd hefyd effaith amgylcheddol mewnforio bwydydd a phwysigrwydd edrych ar ffyrdd gwahanol o helpu'r amgylchfyd drwy brynu bwyd yn lleol neu tyfu bwyd ein hunain. Mae'r thema yma yn gyfle i ddysgu sgiliau daearyddol yn ogystal a dysgu am wledydd eraill ledled y byd.
Gwaith Cartref
Bydd gwaith cartref yn cael eu gwblhau ar Microsoft Teams. Bydd angen i'r plant mewngofnodi gan ddefnyddio eu manylion HWB. Rydym wedi dangos i'r plant sut mae gwneud hyn ac mae pawb wedi mewngofnodi yn llwyddiannus yn yr ysgol.
Addysg Gorfforol
Bydd gwersi Addysg gorfforol ar :-
Bydd gofyn i'r plant ddod a dillad addas, er enghraifft- esgidiau chwaraeon, siorts, crys t sbar neu all y disgyblion wisgo'u dillad ymarfer corff i'r ysgol.
Darllen
Bydd llyfrau yn cael eu danfon adref, ond fel canlyniad o'r pandemig, bydd rhaid iddyn nhw cael eu cwblhau cyn i'w dychwelyd i'r ysgol. Bydd nifer o gyfleoedd i ddarllen yn unigol ac fel grwp yn ystod yr wythnos ym Mlwyddyn 4.
Tablau
Sicrhewch eich bod yn ymarfer eich tablau adref. Mae nifer o apiau ar gael i wneud hyn mewn ffordd hwylus e.e. J2Blast ar HWB. Ewch i drio ac anfonwch sialens i'ch ffrindiau!
Rheolau Dosbarth
Y disgyblion sydd wedi ysgrifennu y rheolau yma i'r dosbarth.
Helpwch eraill.
Peidiwch a gweiddi yn y dosbarth,
Gwrandewch ar y staff.
Gwnewch eich gorau glas bob amser.
Tacluswch lan ar ol eich hun.
Byddwch yn garedig i eraill.
Gofalwch am eiddo'r ysgol.
Peidiwch a thorri ar draws pan fo eraill yn siarad.
Meddyliwch cyn i chi siarad.
Os na allwch ddweud rhywbeth neis, peidiwch a dweud unrhyw beth o gwbl.
Mae'n neis i fod yn bwysig, ond mae'n bwysicach bod yn neis.
Byddwch yn onest.
Autumn Term - The Wild Wood
Spring Term - Castles and Dragons
Summer Term - Global Gormet